Rydym wedi partneru â Policy in Practice i gynnig y cyfrifiannell budd-daliadau hwn

Trwy ychydig o gamau syml gallwch weld faint o fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w gael a faint a faint well allwch fod mewn gwaith. Gallwch hefyd weld sut y gall newidiadau yng nghyllideb eich cartref effeithio ar eich incwm.

Mae’r gyfrifiannell yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sy’n byw’n barhaol yn y DU. Nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer bobl mewn ysbyty, gofal preswyl, ar streic neu yn y carchar – os yw hyn yn berthnasol i chi, gweler ein tudalen gyswllt a chysylltwch â ni’n uniongyrchol. Dylid trin cyfrifiadau fel amcangyfrif defnyddiol, dim ond mor gywir â’r wybodaeth a gofnodwyd.

Bydd yn haws ac yn gyflymach i chi lenwi’r gyfrifiannell os oes gennych y darnau canlynol o wybodaeth wrth law:

  • llythyrau a gawsoch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • cyfriflenni banc
  • llythyrau treth cyngor
  • slipiau cyflog

Gallwch wneud cyfrifiad yn ddienw. Os hoffech gyflwyno eich cyfrifiad i ni, gallwch glicio ar y botwm “Send to adviser” ar frig y dudalen gyfrifiannell ar y dde; gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw a rhif ffôn cyswllt yn y maes “message” fel y gallwn gysylltu â chi i drafod eich achos. Os ydych yn gleient presennol ac yn gwybod eich rhif cyfeirnod, gallwch gynnwys hwnnw hefyd. Ein nod yw ymateb i chi o fewn 3 diwrnod gwaith.

Cyfrifiannell Budd-daliadau