Mae Cyngor Advicelink Cymru yn berthnasol i drigolion sy’n byw yng Nghymru yn unig.
Croeso i
Advicelink Cymru
Croeso i
Advicelink Cymru
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Advicelink Cymru yn darparu cyngor a chymorth ar hawliau lles cymdeithasol i bobl yng Nghymru, gan gynnwys budd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, tai, addysg a gwahaniaethu.
Rydym yn darparu cyngor yng nghalon ein cymunedau, yn ogystal â chynnig llinell gymorth Advicelink Cymru am ddim sydd ar gael rhwng 8yb a 7yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a dydd Sadwrn 9yb a 1yh.
Ffoniwch linell gymorth Advicelink Cymru ar 0800 702 2020 neu dilynwch y dolenni isod i gael mynediad at ein cynnwys hunangymorth.
Nod gwasanaeth Advicelink Cymru yw:
Breathing Space – Mental Health Access Mechanism (Wales)
Lle i Anadlu – Mecanwaith Mynediad Iechyd Meddwl (Cymru)
Mae Breathing Space / Lle i Anadlu yn gynllun seibiant dyled a all ddarparu amddiffyniad i bobl sy’n byw yng Nghymru mewn dyled ac sy’n derbyn triniaeth argyfwng iechyd meddwl. Gallwch gyflwyno cais trwy weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu ar eich pen eich hun.
Mae Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl yn opsiwn diogelu dyled ar gyfer pobl sy’n derbyn triniaeth argyfwng iechyd meddwl.
Mae’n rhoi amddiffyniad dros dro rhag credydwyr gan gynnwys rhewi’r rhan fwyaf o’r log, ffioedd a thaliadau ar y ddyled ac oedi’r rhan fwyaf o gamau gorfodi a chyswllt gan gredydwyr.
Bydd yr amddiffyniadau y mae’n eu rhoi i gwsmeriaid yn rhoi amser a lle i sefydlogi eu sefyllfa ariannol, ymgysylltu â chyngor a dod o hyd i ateb.

Yn 2024, helpodd Advicelink Cymru dros 140,000 o bobl gyda dros 521,000 o broblemau. Fe wnaethom helpu cleientiaid i sicrhau dros £66.7 miliwn mewn incwm ychwanegol a dileu £19.6 miliwn o ddyledion problemus.
Advicelink
Cymru
